© 2023 by Name of Site. Proudly created with Wix.com

  • Instagram Social Icon
  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon
Ynys Cwyfan - yr eglwys yn y môr

Ymunwch â ni am ddiwrnod o seiclo dan arweiniad ar hyd lonydd distaw gan ddarganfod hanes a chynhanes Ynys Môn yn ogystal â mwynhau’r bywyd gwyllt.

 

Ynys Cwyfan – yr eglwys yn y Môr

....

Yn rhan o’r tir mawr ar un adeg, mae’r Eglwys yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer priodasau o bryd i’w gilydd, ac yn ymddangos mewn sawl llun a morlun dramatig. Wedi’r daith allan, sydd yn cynnwys pwt o gerdded efo’r beic, a chan ddilyn taith hen drac ar draws y twyni i Aberffraw, rydym yn archwilio’r arfordir a’r Eglwys cyn dychwelyd tua’r tir ar ein taith yn ôl.

 

22 milltir gyda mymryn o wthio’r beic ar hyd llwybr.

Dewch â’ch beic eich hun neu llogwch feic gennym.
 

Cysylltwch â ni neu cwblhewch ein ffurflen llogi er mwyn cadarnhau eich lle

 

Dyddiadau:
 

Mercher 10 Gorffennaf
Mercher Awst 14
Sadwrn 31 Awst
Sadwrn Awst 28
Sadwrn 28 Medi
Sadwrn 12 Hydref
Sadwrn 26 Hydref
Sadwrn 9 Tachwedd

 

Taith seiclo dan arweiniad diwrnod o hyd, yn cynnwys llogi beic:

£55 y pen,  
£70 am feic trydan. Darperir helmedau gyda’ch beic llog ar gyfer eich diogelwch. 
Dewch â’ch beic eich hunan (a helmed):

£40 y diwrnod