Cwyfan: Eglwys Fach y Môr

St Cwyfan's, the 'church in the sea' is marooned at high tide, off Anglesey.

🚴‍♀️ 26 milltir / 42 cilomedr (modd ei gwtogi)
🌄 Tua 685′ /208 medr
🥪 Dewch â phecyn bwyd & cyfle i ymweld â chaffi

Cymaint mwy na’i gyrchfan, ar y daith feic hon rydym yn croesi gwlypdiroedd, yn dilyn llwybr hen drac ar draws twyni a phont pynfeirch, ac yn dilyn lonydd gwledig i seiclo tua’r môr. Mae ein taith feics yn mynd â ni at eglwys syfrdanol, Sain Cwyfan, sydd yn hoff bwnc i ffotograffwyr ac arlunwyr fel ei gilydd. Eistedda’r eglwys ar dalp o dir sydd yn cael ei hamgylchynu gan y môr ar lanw uchel. Rydyn ni’n torri o feicio am bicnic (dewch â’ch pecyn bwyd eich hun) ac i gerdded i’r ynys ar lanw isel.

Gynt yn rhan o’r tir mawr, saif  yr Eglwys ar y traeth neu yn y môr. Cynhelir gwasanaethau yma ar rai dyddiadau drwy’r haf, ac mae’n cael ei defnyddio ar gyfer priodasau o bryd i’w gilydd – am leoliad perffaith!

Mae hanes difyr a chythryblus i’r eglwys, a oedd ar un adeg, ddwywaith ei maint presennol. Wedi ei churo gan stormydd, mae hefyd wedi ei hachub rhag dymchwel i’r môr fwy nag unwaith.

Taith tua’r môr

Ar ein taith, rydym yn croesi un o wlypdiroedd iseldir mwyaf Cymru. Dyma adnodd hanfodol ar gyfer mamaliaid, planhigion ac adar prin. Byddwn yn dweud wrthych am y trafferthion wrth geisio adeiladu’r cob addiffynol er mwyn cadw’r môr allan, a draenio’r morfa heli. Creodd hyn fwy o dir amaethyddol ac roedd hefyd yn galluogi pobol i deithio ar draws y rhan hon o’r ynys yn llawer haws. Roedd y morfa heli mor fawr bu bron iddi hollti’r ynys, a chyfeiriwyd at yr ardaloedd uwchben ac islaw’r gors fel Ynys Môn mwyaf a lleiaf.

Aberffraw, llys tywysogion Cymru

Wedi dilyn hynt yr aber mawr a seiclo heibio stad hanesyddol Bodorgan, un o uchafbwyntiau’r daith feics hon yw seiclo ar hyd lôn sy’n dilyn llwybr hynafol ar draws y twyni. Yn y gwanwyn a dechrau’r haf, mae tegeirianau gwyllt i’w gweld yn tyfu ar hyd y ffordd yma.

Wrth groesi hen bont pynfeirch, rydyn ni’n cyrraedd Aberffraw, safle un o lysoedd pwysicaf y Tywysogion Cymru. Dyw ddim yn bell wedyn, wrth i ni ddilyn yr hen lôn at y traeth.

Cawn ein cipolwg cyntaf ar yr eglwys  yn eistedd ar ei hynys fach yn y môr wrth i ni nesáu at yr arfordir. Rydym yn oedi yma i fwynhau ein picnic a cherdded allan i’r Eglwys. (Rydym yn cynllunio’r dyddiadau hyn i gyd-fynd â llanw isel fel y gallwn gyrchu’r ynys- er ei bod yn edrych yn fwy dramatig wedi’i amgylchynu gan y môr!)

Wedi archwilio’r ynys, rydyn yn troi tua’r tir, ac mae ein taith beics yn newid ei chymeriad. Mae’n debyg y byddwn yn stopio mewn eglwys arall i ddweud wrthych am y ficer a achosodd sgandal a chynddeiriogodd bron i bawb ym Môn a nifer o Gymry dylanwadol y tu hwnt. Efallai y byddwn yn penderfynu galw mewn caffi poblogaidd sy’n darparu bwyd cartref gwych, ac sy’n gyrchfan poblogaidd efo cerddwyr a beicwyr!

Archebwch Ar Lein Rŵan